![]() | |
Math | Bara fflat, saig ![]() |
---|---|
![]() |
Pryd o fwyd o'r Lefant yw Manakish (Arabeg: مناقيش), neu mewn ffurf unigol man'ousheh, a elwir weithiau yn Arabeg: فَطَايِر (faṭāyir)[1] sy'n cynnwys toes gyda theim, caws neu friwgig arno. Yn debyg i pizza, gellir ei sleisio neu ei blygu, a hynny naill ai i frecwast neu ginio. Y gair manaqish yw lluosog y gair Arabeg manqūshah (o'r gwreiddyn naqasha sef 'i gerflunio rhywbeth, cerfio' neu 'engrafiad'), sy'n golygu ar ôl i'r toes gael ei rolio'n wastad, eich bysedd i greu pantiau bychan ar gyfer y toping.[2]
Yn draddodiadol, byddai menywod yn pobi toes mewn popty cymunedol yn y bore, i ddarparu bara beunyddiol i'w teulu, a byddent yn paratoi dognau llai o does gyda thopinau gwahanol ar gyfer brecwast ar yr un pryd.[3]
Mae Manakish yn boblogaidd ar draws y Levant,[4][5] ac maent hefyd i'w cael mewn rhanbarthau cyfagos, a chanolfannau ymfudo yn y Lefant.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search